SL(6)559 – Gorchymyn Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr (Diwygio) 2025

Cefndir a diben

Sefydlwyd Cynllun Masnachu Allyriadau (“ETS”) y DU gan Orchymyn Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr 2020 fel cynllun masnachu allyriadau nwyon tŷ gwydr ar gyfer y DU gyfan, a fydd yn ffordd gost-effeithiol o annog y sectorau pŵer, diwydiant ac awyrennau i leihau eu hallyriadau.Cafodd ei lunio ar y cyd gan y pedair llywodraeth yn y Deyrnas Unedig sy’n gweithredu’r ETS ar y cyd fel Awdurdod ETS y DU (“yr Awdurdod”). Mae'n cyfrannu at dargedau lleihau allyriadau a nod sero net y DU, yn ogystal â'r llwybr i leihau allyriadau yng Nghymru.

Ym mis Rhagfyr 2023, agorodd yr Awdurdod ymgynghoriad 12 wythnos o'r enw “Cynllun Masnachu Allyriadau'r DU: Adolygiad o Ddyraniadau am Ddim”, a oedd yn edrych ar opsiynau i dargedu'n well y rhai sydd fwyaf mewn perygl o ddadleoli carbon ac i sicrhau bod y dyraniad am ddim o lwfansau sy'n cwmpasu allyriadau nwyon tŷ gwydr yn cael ei ddosbarthu'n deg.  Mae nifer bach o’r newidiadau technegol a gynigiwyd yn yr ymgynghoriad ym mis Rhagfyr yn gofyn am ddeddfwriaeth i'w gweithredu cyn cyflwyno Adroddiad Lefel Gweithgarwch 2025.

Nod y diwygiadau arfaethedig i'w gwneud gan y Gorchymyn hwn yw:

-      Newid y ffordd yr ymdrinnir â lwfansau sy’n cael eu dyrannu am ddim ym mlwyddyn olaf gweithgarwch gweithfa neu is-weithfa pan fo terfyniad parhaol, fel y byddai hawl gweithredwyr i ddyraniadau am ddim yn ystod eu blwyddyn olaf o weithredu yn seiliedig ar lefelau gweithgarwch gwirioneddol. Os mai gweithgarwch datgarboneiddio sy’n gyfrifol am y terfyniad parhaol, gall gweithredwyr wneud cais i barhau i gael blwyddyn lawn o lwfansau am ddim. Felly, ni fydd y newid a awgrymir yn gymwys i'r gweithredwyr hyn (yn amodol ar dystiolaeth ddigonol).

-      Diweddaru’r diffiniad o derfyniad parhaol i gynnwys senarios pan fo terfyniad dros dro yn cael ei ystyried yn derfyniad parhaol.

Gweithdrefn

Cadarnhaol Drafft.

Gosodwyd drafft o'r Gorchymyn gerbron Senedd Cymru, Senedd y Deyrnas Unedig, Cynulliad Gogledd Iwerddon a Senedd yr Alban. Rhaid i'r drafft gael ei gymeradwyo gan bob un o'r deddfwrfeydd hynny cyn y gellir ei wneud gan Ei Fawrhydi.

Materion technegol: craffu

Nodwyd un pwynt i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn cysylltiad â’r offeryn hwn.

1.    Rheol Sefydlog 21.2(ix) – nad yw wedi’i wneud neu i’w wneud yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Nodwn fod y Memorandwm Esboniadol yn datgan y canlynol:

Gan y bydd Seneddau'r DU, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn craffu ar y Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor, ni[d] ystyrir ei bod yn rhesymol ymarferol gwneud na gosod yr offeryn hwn yn ddwyieithog.

Rhinweddau: craffu    

Nodwyd un pwynt i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn cysylltiad â’r offeryn hwn.

2.    Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd

Mae’r rhaglith i’r Gorchymyn yn datgan bod y Gorchymyn yn cael ei wneud drwy arfer pwerau a roddir gan ddarpariaethau amrywiol o Ddeddf Newid Hinsawdd 2008, gan gynnwys Atodlen 2. Mae Atodlen 2 o Ddeddf 2008 yn cynnwys 31 o baragraffau. Gofynnir am eglurhad ynghylch pa un o’r paragraffau hyn sy’n cynnwys y pŵer/pwerau i wneud y Gorchymyn hwn a pham y cyfeirir at Atodlen 2 yn gyffredinol heb gyfeirio at y paragraff/paragraffau penodol priodol.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae angen ymateb gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â phwynt adrodd 2 yn unig.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

9 Rhagfyr 2024

 

Ymateb y Llywodraeth: Gorchymyn y Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr (Diwygio) 2025

Pwynt Craffu ar Rinweddau 1:  Nodir y pwynt â diolch. Mae a.44 o Ddeddf Newid Hinsawdd 2008 yn cynnwys y pŵer i wneud darpariaeth drwy reoliadau ar gyfer cynlluniau masnachu sy'n ymwneud ag allyriadau nwyon tŷ gwydr, megis Cynllun Masnachu Allyriadau'r DU. Mae a.46(1) o Ddeddf Newid Hinsawdd 2008 yn esbonio bod Atodlen 2 yn pennu materion y ceir darparu ar eu cyfer, neu y mae rhaid darparu ar eu cyfer, mewn Rheoliadau o dan a.44. Y dull a ddefnyddiwyd mewn cysylltiad â phob un o Orchmynion Cynllun Masnachu Allyriadau'r DU a wnaed o dan a.44, ers sefydlu Cynllun Masnachu Allyriadau'r DU, fu dyfynnu Atodlen 2 yn y rhagymadrodd, heb gyfeirio'n benodol at ba un o'r 31 o baragraffau sy'n cynnwys y pwerau perthnasol. Er enghraifft, y Gorchymyn cyntaf sy'n sefydlu'r cynllun (Gorchymyn y Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr 2020) a'r Gorchymyn diweddaraf sy'n ei addasu (Gorchymyn y Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr (Diwygio) 2024).

Bwriad y darpariaethau yn Atodlen 2 oedd sefydlu fframwaith trosfwaol mewn perthynas â chynlluniau masnachu. Gan na chawsant eu dylunio gyda Chynllun Masnachu Allyriadau'r DU mewn golwg, maent o reidrwydd yn gyffredinol eu natur. O ganlyniad, mae gan ddiwygiadau i weithrediad y cynllun y potensial i fod yn berthnasol i nifer o'r darpariaethau fframwaith cyffredinol hynny. Felly y mae hi gyda'r Gorchymyn hwn. Gallai nodi pob paragraff sy'n cynnwys pŵer a allai fod yn berthnasol arwain at ragymadroddion trwsgl a gor-gymhleth, nad yw'n gymorth i'r darllenydd.

Byddwn yn parhau i adolygu'r dull hwn wrth i ni barhau i ddeddfu i ddatblygu Cynllun Masnachu Allyriadau'r DU.